Profile & CV

  

Derbyniodd Stephen ei hyfforddiant yn Mountview Theatre School a thra'n hyfforddi ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiad yn cynnwys Blood Brothers; Twelfth Night; West Side Story; Guys & Dolls; Sweet Charity; My Fair Lady ac Anything Goes.

Ymddangosiad proffesiynol Stephen oedd yng nghynhyrchiad Llundian o Les Miserables (Palace Theatre) lle y bu'n dirprwyo ac yn chwrarae Enjolras. Yna bu'n chwarae'r prif ran yn nhaith DU o Martin Guerre (West Yorkshire Playhouse/Cameron Mackintosh) ac ail greodd y rôl ar y recordiad cast yn 1999 (First Night Records). Mae wedi ymddangos fel unawdydd mewn amrywiol gyngherddau yn cynnwys Showtime At The Stadium (BBC Wales); Sondheim Tonight (Barbican); Salute to the Stars (Royal Albert Hall) a West End Winners (Festival Hall). Mae Stephen wedi teithio Ewrop gyda Gregorian - Masters of Chant, fel unawdydd cefndir i daith 2000 Michael Crawford ac yn rhyngwladol gyda'r WestEnders.

Ymddangosodd mewn cynhyrchiad o Phantom of the Opera Ken Hill (Theatre Royal, Lincoln) yn chwarae Raoul; yn Kuala Lumpur gyda Stars Of The Musicals (West End International); yn y Broadway Music Theatre, Tokyo fel unawdydd yn Encore!, yng nghynhyrchiad gweithdy o Jerry Springer: The Opera (BAC); The Woman In White Andrew Lloyd Webber yn y Sydmonton Festival ac yn fwyaf diweddar fel Harry yn Scrooge (taith DU).

Mae Stephen wedi gweithio fel unawdydd cefndir a chanwr sesiwn gyda Capital Voices i berfformwyr fel Martine McCutcheon (ar y teledu ac ar ei halbwm Musicality); Michael Ball; Elaine Paige; Gareth Gates; Will Young. Mae ei waith recordio arall yn cynnwys Stars Of The Musicals (JAY Records); y brif ran yn Merrick (Pirate Productions); Peter Abelard yn Abelard & Heloise (Shakespeare et al);Copacabana (Danish Cast recording); amrywiol draciau sain ffilmiau a gwaith demo i Elton John a Warner Chappell Music.

English version